Newyddion

Dr. Carl Clowes

Dr. Carl Clowes

Gyda thristwch mawr fe gyhoeddwyd bod sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, y Doctor Carl Clowes, wedi marw yn yr oriau man fore Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 2021, yn dilyn salwch byr. Roedd yn 77 mlwydd oed.

Gweledigaeth Carl Clowes oedd adfer bywyd y pentref trwy greu yma ganolfan iaith genedlaethol; ef oedd Cadeirydd cyntaf yr Ymddiriedolaeth ac roedd yn dal yn aelod gweithgar o’r Bwrdd, fel y bu ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r ymddiriedolwyr a’r staff yma’n ymwybodol iawn o’n colled ac yn cydymdeimlo’n ddwfn gyda Dorothi a’r teulu yn eu profedigaeth.

Dyma deyrnged Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Huw Jones:

Mae’n anodd cyfleu’r teimlad o fwlch sy’n ymddangos wrth feddwl ein bod wedi colli un o gymwynaswyr mawr yr iaith Gymraeg.

Roedd Carl Clowes yn weledydd yng ngwir ystyr y gair  – yn ddyn oedd yn cael breuddwydion, yn llwyddo i ysbrydoli miloedd o bobl eraill i’w rhannu, ac â’r gallu ymarferol a’r styfnigrwydd i’w troi’n ffaith.

Yn achos Nant Gwrtheyrn, roedd tristwch symbolaidd y pentref mewn adfeilion yn wybyddus i genedl gyfan. Ond Carl welodd sut y gellid dod â bywyd yn ol i’r Nant trwy greu canolfan iaith yno. Y bwriad o’r cychwyn oedd datblygiad fyddai’n creu miloedd o siaradwyr Cymraeg newydd, tra’n creu cyflogaeth sylweddol i Gymry Cymraeg mewn ardal lle roedd gwaith yn brin, yn sgil cau’r chwareli.

Ac fe lwyddodd. Trwy ddŵr a thân, gyda chefnogaeth a chymorth ei briod Dorothi, a’r cyd-weithwyr eraill a ddaeth i ymuno yn y fenter, ac hefyd y gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru a thu hwnt fu’n codi arian i brynu’r safle a’i addasu, fe drowyd yr adfeilion yn ganolfan fyrlymus ar sylfeini cadarn.

Yn ogystal â bod yn Gadeirydd cychwynnol y fenter, bu’n aelod di-dor o’r Ymddiriedolaeth sy’n gyfrifol am ei pharhâd, ac fe’i penodwyd yn Llywydd anrhydeddus rai blynyddoedd yn ôl.

Roedd ei egni heriol yn amlwg drwy’r holl gyfnod. Beth bynnag arall oedd ganddo ar y gweill – ac roedd yna lawer o fentrau ac achosion eraill oedd hefyd yn agos at ei galon – roedd yn dal i fyrlymu o syniadau am bethau y dylai’r Nant fod yn eu gwneud.

‘Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn’ oedd cytgan cân enwog Ac Eraill slawer dydd. Roedd y Nant yn symbol o ddirywiad cenedl, cymuned ac iaith. Ond fe ddaeth maes o law yn symbol pwerus o’u hadfywiad. Carl Clowes wnaeth droi’r slogan yn ffaith. Bydd gan bob dysgwr ac ymwelydd i’r Nant le i ddiolch iddo am ddegawdau i ddod. Mae ein colled ninnau fel Ymddiriedolaeth yn ddifesur.

Huw Jones

Cadeirydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn