Newyddion

Dychwelyd i’r Nant degawdau’n ddiweddarach

Dychwelyd i’r Nant degawdau’n ddiweddarach

Daw Janet Watkin yn wreiddiol o dde Lloegr. Mae ei stori gyda’r iaith Gymraeg yn dechrau pan dreuliodd amser fel myfyrwraig yn Ysbyty Glangwili, lle bu iddi gyfarfod ei gŵr.

Penderfynodd Janet o’r dechrau ei bod hi eisiau siarad Cymraeg gyda’i phlant. Yn 1982 mynychodd Gwrs Carlam yn Aberystwyth ac yna dosbarthiadau nos wythnosol gyda Chanolfan Cymry Llundain.

Daeth i’r Nant am y tro cyntaf yn 1983, yn feichiog gyda’i phlentyn cyntaf, Iwan. Roedd hi’n dipyn o daith! Teithio i lawr yr allt serth mewn tractor, chwe mis yn feichiog. Daeth eto yn 1984 gydag Iwan yn blentyn bach. Daeth Mamgu efo nhw’r tro hwn i warchod Iwan tra roedd Janet yn y dosbarthiadau. Mae hi’n cofio dau o’r tiwtoriaid oedd yno ar y pryd: Cennard Davies a Marc Raimant.

Dros y blynyddoedd daeth Janet yn ôl i’r Nant sawl gwaith,rhai o thripiau mwyaf cofiadwy oedd dod i’r Nant gyda’i phlant oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Cymry Llundain yn 1989 ac 1991. Treuliodd yr wythnos yn chwarae, dysgu ac yn dod i adnabod yr ardal tra roedd rhai o’r rhieni eraill yn mynychu dosbarthiadau.

Symudodd Janet a’r teulu i Fangor bron i drideg mlynedd yn ôl, a helpodd hyn iddi gael gafael â’r iaith, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei gwaith, yn y gymuned a gyda ffrindiau a theulu.

Daeth Iwan, ei mab, yr ôl i’r Nant gyda’i deulu yn 2018. Fo oedd yn gwarchod y plant tra roedd ei wraig yn dysgu Cymraeg. Er gwaethaf y storm Beast from the East llwyddodd Janet i fynd lawr i’r Nant i weld Iwan a’r teulu. Roedd y Nant wedi cael ei uwchraddio, ond heb golli ei gymeriad. Roedd y ffordd i lawr yn wahanol iawn! Ac roedd dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn y Plas yn hytrach nag yn y bythynnod, ac roedd y Caffi’n wych. Doedd y teimlad ddim wedi newid ers yr 80au, ac roedd dal nifer o eifr o gwmpas.

Dros y blynyddoedd mae Janet wedi dychwelyd i’r Nant ac yn ddiweddar mynychodd gwrs Uwch rhithiol oedd yn trafod chwedlau Cymru. Sut brofiad oedd hyn i Janet a pam wnaeth hi benderfynu dychwelyd i ddysgu yn y Nant bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach?

“Dwi’n cofio dangos llun o fy wyres i fy ngŵr a nes i gyfeirio ati fel gwryw (o fewn brawddeg). “Dyma Carys ar ei feic.” “Ers pryd mae Carys yn fachgen?” Wrth gwrs mae geiriau benywaidd a gwrywaidd y Gymraeg yn effeithio ar dreigladau berfau, enwau ac ansoddeiriau. Byddai unrhyw ddysgwr yn dweud bod hyn yn gwneud dysgu Cymraeg yn dipyn o sialens! Dyma oedd yr anogaeth roeddwn i angen i fynd yn ôl at y llyfrau a gwella fy Nghymraeg. Roeddwn i eisiau gwella, ac eisiau siarad yn gywir gyda fy wyron yn union fel roeddwn i wedi teimlo’r holl flynyddoedd yn ôl gyda fy mhlant.

“Felly dwi wedi gwneud amryw o bethau; dilyn cwrs meistroli wythnosol drwy Brifysgol Bangor, ymuno gyda chlwb darllen Dyffryn Ogwen a dychwelyd i Nant Gwrtheyrn – lle dechreuodd y cwbl.

“Nes i fynychu Cwrs Hyfedredd yn 2018. Mi oedd Ifor ap Glyn y gŵr Gwadd yn siarad am ei Lyfr Hanes yr Iaith Mewn 50 Gair. Nes i ddim oedi i gofrestru ar gyfer cwrs Rho Awch ar dy Gymraeg yn 2019 (cwrs breswyl) gydag Ifor ap Glyn fel tiwtor. Fe wnaeth rywbeth glicio yn y ffordd roedd Ifor yn esbonio sut mae treigladau yn gweithio ac mi wnaeth hefyd fy nysgu i ddeall a gwerthfawrogi barddoniaeth Gymreig. Mi wnaeth hyn roi’r hyder i fi hefyd i gofrestru ar gyfer y cwrs chwedlau pan welais hwn yn cael ei hysbysebu.

”Mae dysgu dros Zoom yn brofiad gwahanol, rydych yn dod i adnabod pobl mewn ffordd wahanol. Wedi’r cyfan, rydych yn mynd yn syth i mewn i gartrefi pobl ddieithr led led y byd! Ond roedd o’n brofiad gwych a nes i wirioneddol fwynhau. Mi roedd o’n rhoi ffocws i fi am yr wythnos ac er nad oeddwn yn y Nant, mi ges i’r un teimlad am y Nant drwy’r cwrs rhithiol. Mae fy mab yng nghyfraith hefyd wedi mynychu cwrs blasu yn ddiweddar, er ei fod yn byw yn Preston.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd o beidio gweld fy wyron, ond dwi wedi mwynhau darllen a chanu yn Gymraeg gyda nhw dros Zoom. Nhw ydi fy ysbrydoliaeth ac maent yn fy nghymell i barhau i wella.”