Blogiau

Dysgu’r Gymraeg i fod yn rhan o fy nghymuned

Dysgu’r Gymraeg i fod yn rhan o fy nghymuned

Dysgu’r Gymraeg i fod yn rhan o fy nghymuned
gan Margaret Taylor-Hill

Mae tair blynedd ers i ni symud i Gymru. Roedd gen i gysylltiadau teuluol â Chymru ar ochor fy nhad, gyda teulu yn byw ar y ffin yn Llanymynech. Ond prin oedd gen i’r iaith ond am y gallu i gyfrif i ddeg a gofyn am ‘baned o de’. Roeddwn fy awch i ddysgu’r Gymraeg wastad yna a dwi’n cofio prynu llyfr Cymraeg pan oeddwn i’n blentyn. Doeddwn i ddim yn hoffi’r llyfr, felly dyna ddiwedd ar y syniad!

Pan wnaeth fy ngŵr a finnau ymddeol, roeddem yn awyddus i symud i rywle llai, distaw felly dyma benderfynu edrych am dŷ ar hyd arfordir Cymru. Mi wnaethom ni syrthio mewn cariad efo Nefyn yn syth, roedd ganddo bopeth – y wlad, traethau a’r mynyddoedd. Tan i ni symud i Nefyn, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith mor fyw.

Dwi wastad wedi bod efo cryn ddiddordeb mewn hanes ac fe glywais am yr Amgueddfa Forwrol yn y pentref. Es i draw i holi am gyfleoedd i wirfoddoli a’r cwestiwn cyntaf oedd “Dachi’n siarad Cymraeg?” Cwestiwn nad oeddwn yn ei ddeall ar y pryd. Ond dyma anogaeth i fi ddechrau dysgu.

Nes i ddechrau drwy fynychu cwrs blasu dwys yn Nant Gwrtheyrn ac yna cofrestru ar gyfer dosbarthiadau wythnosol, dwi wedi parhau gyda’r dosbarth dros y blynyddoedd.

Mae staff yn yr Amgueddfa (pan oedd o ar agor) wedi bod yn wych drwy siarad Cymraeg efo fi a fy helpu i ddysgu. Mae gen i hefyd gymydog sydd yn fy annog a helpu.

Mae’r croeso dwi wedi cael gan y gymuned wedi bod mor galonogol. Dwi’n cofio mynd i’r pictiwrs ym Mhwllheli a gofyn am y tocynnau yn Gymraeg. Daeth y ddynes o du ôl i’r cownter i fy nghofleidio! Dwi hefyd yn mynychu cyfarfod yn y dref i drafod menter tafarn gymunedol Yr Heliwr. Mi wnaeth bobl ymdrech i gyfieithu’r cyfarfod i fi allu deall, ac mae pethau fel hyn yn eich effeithio. Mi wnaeth fy annog i feddwl ‘y peth lleiaf gallaf ei wneud yw gwneud yr ymdrech i ddysgu.’

Ar ôl symud i’r ardal, mi wnes i brawf DNA wnaeth gadarnhau fy mod yn 36% Cymraeg. Roedd y prawf yn dangos pa ardaloedd o Gymru yn benodol, ac i fy syndod, fe wnaeth adnabod ardaloedd o Ben Llŷn! Sgwn i os dyma wnaeth fy nennu fi i’r ardal? Mae o’n sicr yn teimlo fel ‘adref’ erbyn hyn.

Mae dysgu’r Gymraeg wedi helpu fi deimlo’n rhan o fy nghymuned. Mae o’n ddefnyddiol mewn cymaint o ffyrdd a dwi wirioneddol wedi syrthio mewn cariad gyda’r iaith.

Dyma gerdd ‘Dwi’n dysgu Cymraeg’ wedi’i ysgrifennu gan Margaret.