Newyddion

Dysgu’r Gymraeg i siarad gyda chleifion a’u teuluoedd yn eu hiaith gyntaf

Dysgu’r Gymraeg i siarad gyda chleifion a’u teuluoedd yn eu hiaith gyntaf

Mae Dr Jonathan Hurst yn feddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey, ac ers bron i ddwy flynedd mae o’n dysgu’r Gymraeg.

Daw Jonathan yn wreiddiol o Stockport ac mae o bellach wedi ymgartrefu yn ardal Lerpwl. Fel plentyn roedd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau athletau yng ngogledd Cymru ac fe gafodd ei swyno gan yr iaith. Ond ei gymhelliant fel oedolyn i ddysgu’r Gymraeg sydd i’w edmygu, fel y mae o’n egluro yn ei eiriau ei hun…..

“Dw i’n gofalu am fabanod a anwyd yn gynamserol neu sy’n sâl ar ôl genedigaeth. Dechreuais i ddysgu’r Gymraeg oherwydd fy mod i isio gallu siarad â rhai o’r teuluoedd sy’n dod i Lerpwl o ogledd Cymru, ac sy’n siarad y Gymraeg fel eu hiaith gyntaf.

“Roedd un teulu yn benodol tua 18 mis yn ôl, a wnaeth fy ysgogi i ddysgu hyd yn oed yn fwy nag erioed. Roedd yn amlwg mai Cymraeg oedd eu hiaith gyntaf ac roeddwn i’n teimlo’n dwp ac yn euog nad oeddwn i’n gallu siarad â nhw yn eu hiaith (gyntaf). Mae gynnon ni sawl teulu sy’n dod o Ogledd Cymru, a theimlaf ei bod hi’n bwysig cydnabod y Gymraeg fel eu prif iaith. Yn enwedig mewn sefyllfaoedd sydd eisoes yn anodd i lawer o deuluoedd; babi yn cael ei eni’n gynamserol neu’n sâl. Mae’n bwysig i fi fy mod yn gallu siarad â nhw yn eu hiaith gyntaf, er mwyn darparu rhywfaint o gysur iddynt.”

Dechreuodd Jonathan ddysgu’r iaith drwy ddefnyddio Duolingo a Say Something in Welsh gan ddysgu 10 munud pob dydd. Cyn cofrestru ar gyrsiau gyda’r Ganolfan Genedlaethol a Nant Gwrtheyrn llynedd.

Dywedodd: “Dw i wrth fy modd yn defnyddio Cymraeg yn fy e-byst, yn darllen llyfrau neu’n gwrando ar y newyddion yn ogystal â chymryd pob cyfle i siarad â phobl. Yn fy ngwaith rwy’n  gwisgo llinyn gyda ‘Cymru’ wedi’i ysgrifennu arno sydd wastad yn bwynt cychwyn da gydag unrhyw deuluoedd sy’n siarad Cymraeg.

“Mae fy nghymhelliant dros ddysgu yn rhoi’r anogaeth i fi ddysgu a trwy ddarllen a siarad dwi wedi dod dros nifer o rwystrau gramadegol ac erbyn hyn yn dechrau meddwl yn y Gymraeg pan yn siarad yr iaith! Mae dysgu Cymraeg yn hwyl. Y cyngor gorau ydi i ddal ati. Mae pobl sy’n siarad yn Gymraeg yn teimlo’n dda dy fod yn dysgu ac yn hapus i ymarfer efo fi.

“Dwi’n edrych ymlaen i gael dod i’r Nant i ddysgu ryw ddiwrnod.”

Cofrestrwch ar gyfer gwrs rhithiol y Nant yma.