Ar ddydd Llun yr Eisteddfod, cynhaliwyd sesiwn ym Maes D, Pentre’r Dysgwyr, i nodi cyfraniad ac ymroddiad nodedig Dr Carl Clowes i’r gwaith o adfer pentref Nant Gwrtheryn a’i droi’n ganolfan i ddysgu’r iaith Gymraeg.
Llywiwyd y drafodaeth gan Huw Jones, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth gan ddefnyddio clipiau sain o lais Carl ei hun yn sôn am rai o’r prif gerrig milltir. Cafwyd cyfraniadau diddorol tu hwnt gan Dafydd Iwan ac Alun Jones, dau o’r ymddiriedolwyr gwreiddiol a gyflwynodd lu o atgofion am y blynyddoedd a gymerodd i brynu’r safle, ac wedyn i godi arian i ddechrau gwella’r tai a chychwyn ar y gwaith o gynnal dosbarthiadau Cymraeg. Ymunodd Francesca Sciarrillo yn syth o gael ei derbyn yn aelod o’r Orsedd i nodi pa mor allweddol oedd cyrsiau’r Nant, a’i leoliad, wedi bod yn ei thaith hi fel dysgwraig.
Daeth cynulleidfa dda ynghyd ar gyfer y digwyddiad a’r teimlad cyffredinol oedd bod y sesiwn wedi bod yn gyfrwng gwerthfawr i atgoffa pobl o’r gamp aruthrol o adfer pentref diarffordd oedd mewn adfeilion ac o gyfraniad unigryw y gŵr a gafodd y weledigaeth a’i gwnaeth yn bosibl.