Newyddion

Er cof am Gwenda Griffith

Er cof am Gwenda Griffith

Ddydd Mercher yr 22ain o Fai, cawsom y newyddion trist fod un o aelodau Bwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, Gwenda Griffith, wedi marw yn dilyn salwch byr.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd yr Ymddireidolaeth:

Roedd Gwenda’n un o’r criw bach o bobl wnaeth fentro i sefydlu cwmniau teledu annibynnol yn y misoedd cynhyrfus hynny cyn i S4C fynd ar yr awyr. Fe fynnodd o’r cychwyn fod yna le i fod ar y sianel ar gyfer rhaglenni oedd yn dathlu diwyg, steil a safon ac fe ddangosodd dros y blynyddoedd sut oedd cyflwyno’r pynciau hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd yr iaith Gymraeg ei hun yn bwysig iddi o’r cychwyn a buan y daeth yn gynhyrchydd ar gadwyn o gyfresi fu’n hyrwyddo a chefnogi ymdrechion dysgwyr o bob cefndir. Daeth hyn â hi i gysylltiad â Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn a derbyniodd wahoddiad i ddod yn aelod o’r Bwrdd yn 2014.

Bu’n ffyddlon iawn i’r Nant ar hyd y blynyddoedd – yn mynychu bron bob cyfarfod ac yn defnyddio ei llygaid craff a’i phrofiad eang o feysydd perthnasol wrth ymdrin â’r heriau amrywiol. Gallai fod yn ddi-flewyn-ar-dafod ond roedd bob amser yn barod i wrando ac ystyried safbwyntiau eraill. Bu’n gefn ac yn gynghorydd cadarn i fwy nag un Cadeirydd. Roedd yn parhau tan yr wythnosau olaf yn gyfrannwr llawn brwdfrydedd a syniadau gyda gweledigaeth glir ynglyn â sut oedd sicrhau lle’r Nant yng nghanol y gwaith o ledaenu’r Gymraeg. Byddwn yn gweld colled enfawr ar ei hôl.