Newyddion

Er Cof am Phyllis Ellis

Phyllis Ellis

Rydym ni fel staff a chyfeillion Y Nant yn drist iawn o glywed am farwolaeth Phyllis Ellis dros y penwythnos. Roedd Phyllis yn ffigwr hynod bwysig i’r Nant, ac yn un a roddodd flynyddoedd o wasanaeth ffyddlon.

Bu’n Ymddiriedolwr ac yn Ysgrifennydd i’r Nant am dros 30 mlynedd, ac ers dod i gysylltiad â’r Nant yn y 90au cynnar, bu’n rhan annatod o ddatblygiad a llwyddiant y sefydliad. Roedd ei hymroddiad, ei threfn a’i chefnogaeth ddi-baid yn allweddol i’r gwaith a’r datblygiadau a fu dros y blynyddoedd.

Ond yn fwy na dim, roedd Phyllis yn ffrind da i’r Nant, yn gadarn, yn garedig, ac yn weithgar bob amser.  Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei theulu a’i chyfeillion yn ystod y cyfnod anodd hwn.