Newyddion

Gweithdy Clai

Gweithdy Clai

Gweithdy creadigol ymarferol gan ddefnyddio clai sych aer, lle bydd y cyfranogwyr yn creu cerflun o dŷ neu fynydd wedi’i ysbrydoli gan y dirwedd leol o gwmpas Nant Gwytheyrn.

 

Bydd y sesiwn yn cynnwys cynllunio syniadau, siapio a ffurfio’r clai, ac addurno’r gwaith gorffenedig gyda phaent acrylig.

 

Bydd arweiniad a chefnogaeth yn cael eu darparu drwy gydol y gweithdy.

 

Gweithdy: Tai a Mynyddoedd

dyddiad: 29 Gorffennaf

Amser: 10:00 - 2:30

Oedran: 10 - 14

Pris: £20 yn cynnwys cinio