Newyddion

Gwybodaeth ddiweddaraf

Gwybodaeth ddiweddaraf

Mae’r sefyllfa yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn cydymffurfio a gofynion Llywodraeth Cymru.

Mae ein swyddfa ar agor. Y ffordd orau o gysylltu â ni dros y cyfnod hwn yw drwy e-bost: post@nantgwrtheyrn.org

Mae’r safle ar agor i chi ddod am dro. Mae’r Ganolfan Treftadaeth yn parhau ar gau o ganlyniad i waith cynnal a chadw.

Mae cyrsiau Cymraeg gyda’n tiwtoriaid profiadol ar gael ar-lein neu gallwch ddod i’r safle i ddysgu. Mae rhain yn gyrsiau dwys (5 awr y dydd o ddysgu) gydag amrywiaeth ar gyfer y gwahanol lefelau. Manylion llawn yma.

Llety – Rydym ar agor ac yn cymryd archebion.

Cysylltwch am fwy o fanylion ac i archebu: llety@nantgwrtheyrn.org

Rydym yn derbyn nifer yn uwch na’r arfer o ymholiadau. Gall hyn olygu rhywfaint o oedi yn ein hymateb. Diolch i chi o flaen llaw am eich amynedd, byddwn yn ymateb eich neges mor fuan â phosib ac yn ateb ymholiadau yn y drefn byddwn yn ei derbyn. Diolch am eich cydweithrediad.

 

Caffi Meinir

Mae Caffi Meinir ar agor yn ddyddiol, 11am – 4pm.

Gallwch weld ein oriau agor a’r fwydlen newydd yma.

Byddwn yn eich diweddaru ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.