Blogiau

Llawer o resymau dros ddysgu’r Gymraeg gan Fran Clarke

Llawer o resymau dros ddysgu’r Gymraeg gan Fran Clarke

Llawer o resymau dros ddysgu’r Gymraeg
gan Fran Clarke

Mi symudais i Ceidio ym Mhen Llŷn bum mlynedd yn ôl. Dwi’n dod yn wreiddiol o Swydd Efrog.

Cyn symud mi roeddwn i’n dod ar wyliau i’r ardal ac yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Mi roeddwn i wastad yn teimlo mod i eisiau dysgu ac eisiau gallu siarad yr iaith. Felly unwaith nes i ymddeol, ac efo’r amser i wneud, dyma fynd ati i ddysgu.

Dwi wedi dysgu drwy gyfuniad o ffyrdd – mynychu cyrsiau Nant Gwrtheyrn, mynychu cyrsiau wythnosol gyda Dysgwyr Dwyfor a defnyddio Say Something in Welsh.

Cyn y Covid mi roeddwn i’n defnyddio’r Gymraeg gyda fy ffrindiau, cymdogion ac yn gwirfoddoli yn yr Amgueddfa Forwrol yn Nefyn. Dwi’n canu mewn côr Cymraeg yn y Clwb Golff hefyd. Mae’n fwy anodd i mi ymarfer rŵan, ond dwi’n parhau i siarad ac ymarfer yn y siop ac yn dal i ddysgu’n wythnosol.

Mi fyswn i’n annog unrhyw un sy’n byw yn yr ardal i fynd ati i ddysgu. Mae’n wych gallu siarad efo pobl ac yn ffordd dda o gyfarfod pobl. Roedd dysgu’r iaith yn bwysig iawn i fi a dwi’n gobeithio drwy ddal ati i ddysgu y byddaf yn dod i siarad fel pobl gynhenid yr ardal.