Newyddion

Marblo Meinir – O godi calonnau i godi arian

Marblo Meinir – O godi calonnau i godi arian

Er fod y cyfnodau clo a hunan-ynysu wedi creu problemau di-ri i lawer, doedd eu heffaith ddim yn hollol negyddol i bawb. Daeth llawer o bobl o hyd i dalentau a phosibiliadau nad oeddent wedi eu dychmygu o’r blaen, gan ganu, diddori neu greu pethau o’r newydd i lenwi dyddiau diflas ac i godi calon eu hanwyliaid mewn amser digynsail. Un enghraifft o’r fath yw stori Meinir, merch o Ben Llŷn, a’i syniad bendigedig o greu clustdlysau ac i ddechrau ei busnes ei hun i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Roedd Meinir wedi derbyn cit i wneud clustdlysau o glai ‘polymer’ gan ei modryb. Eistedd ar y silff fu hanes y cit nes i Meinir benderfynu dechrau creu’r clustdlysau i lenwi’r amser wrth hunan-ynysu. Ei syniad gwreiddiol oedd i rannu’r clustdlysau fel anrhegion i aelodau’r teulu. Ond, wrth gael blas ar y creu, bu’n rhaid dod o hyd i glai o liwiau gwahanol i ychwanegu at y rhai hynny oedd yn y cit gwreiddiol er mwyn cael mwy o amrywiaeth.

Symudodd pethau gam ymhellach pan aeth Meinir i gyfarfod codi arian ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, sef Apêl Llannor a Phentreuchaf. Meddyliodd Meinir, yn dilyn llwyddiant ei chlustdlysau gydag aelodau’r teulu, y gallai gynhyrchu mwy o glustdlysau a’u gwerthu er mwyn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod.

Aeth Meinir ati i ddechrau cynhyrchu mwy o glustdlysau, ond byddai angen enw ar y busnes os oedd hi am fynd ati i werthu go iawn, felly penderfynodd ar yr enw ‘Marblo Meinir’ ar gyfer ei menter newydd sbon. Mae Meinir yn barod iawn i ddweud ei bod wedi derbyn llawer o gymorth a chefnogaeth wrth gymryd y camau cyntaf hynny i ddechrau ei busnes ei hun, gyda’i theulu a staff Ysgol Pentreuchaf wedi bod yn help mawr iddi.

Ers iddi ddechrau ar ei menter mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth diolch i’r gefnogaeth mae Meinir wedi’i dderbyn. A cofiwch, wrth grwydro’r maes yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf, fod peth o’r arian oedd yn gyfrifol am gyllido’r Eisteddfod honno wedi dod o ganlyniad i waith caled a sgiliau Meinir a’i syniad bendigedig yn ystod y cyfnod clo.

Bu Meinir acw dydd Sul Awst 7fed, a codi £117 tuag at achos Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf – da iawn a phob lwc i Meinir gyda’r busnes!