Newyddion

Nant Gwrtheyrn – Gweithio Tuag at Ddyfodol Gwell

Nant Gwrtheyrn – Gweithio Tuag at Ddyfodol Gwell

Mae Nant Gwrtheyrn “y Nant” yn ganolfan dreftadaeth a chynadleddau sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg (ail iaith) i ddysgwyr. Mae yna letyai hanesyddol, arddangosfa hanes pentref chwarel Porth y Nant, a chaffi ar y safle. Mae mynediad i’r safle a pharcio am ddim, ac felly mae’r ganolfan dreftadaeth a chynadleddau ar gael i bawb.

Bu’r safle’n gweithredu’n gynaliadwy eisoes gan eu bod yn gweithredu’n hollol ddwyieithog, yn hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg, defnyddio ynni adnewyddadwy sydd yn cynnwys pwmp gwres ffynhonnell aer, biomas ac ynni solar, ac yn gwahanu ailgylchion i sicrhau fod yr ansawdd gorau o ailgylchu yn cael ei greu. Gallwch ddarllen mwy yma!