Newyddion

Newyddion Diweddaraf

Newyddion Diweddaraf

Wedi bron i bedair blynedd ar ddeg fel Prif Reolwr ac wedyn Prif Weithredwr Nant Gwrtheyrn mae Mair Saunders wedi penderfynu newid cyfeiriad ar ddiwedd y flwyddyn. Ei bwriad yw dilyn gyrfa ychydig yn wahanol yn y maes ymgynghorol a chwilio am gyfleodd eraill i gyfrannu o’i phrofiad a’i harbenigedd yn y sector gyhoeddus a’r sector fasnachol. Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ‘Mae Mair wedi gweithio’n ddiflino dros y Nant ers bron 14 mlynedd, gan gynnwys cynnal y sefydliad drwy gyfnod anodd Covid. Yn ystod y cyfnod yma mae’r Nant wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r gweithgareddau dysgu Cymraeg wedi cael clod rhyfeddol gan adolygwyr Estyn ac mae’r Ganolfan yn denu ymwelwyr o bob cornel o’r byd i fwynhau ac i ddathlu digwyddiadau. Rydym yn ddiolchgar i Mair am ei hymroddiad ac yn dymuno pob llwyddiant iddi gyda pha bynnag waith arall y bydd yn ymwneud ag ef yn y dyfodol’ Dywedodd Mair Saunders: ‘Mae hi wedi bod yn fraint bod yn arweinydd ar waith Nant Gwrtheyrn ers bron 14 mlynedd. Mae gweld potensial y lle arbennig yma’n cael ei wireddu wedi bod yn brofiad gwych ac rwy’n ddiolchgar i’r Bwrdd am y cyfle ac i’r holl staff am eu gwaith caled. Rwy’n hyderus ein bod wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Rydw i am gymryd dipyn o seibiant haeddianol rwan cyn mentro i feysydd ymgynghorol newydd.’ Bydd y Bwrdd, drwy’r Cadeirydd, yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros reolaeth y Nant i bontio’r cyfnod hyd nes y gwneir penodiad newydd i swydd y Prif Weithredwr.

Huw Jones - Cadeirydd