Newyddion

Nôl mewn amser – Caffi Meinir

Nôl mewn amser – Caffi Meinir

Yn 1975 doedd hen feudy fferm Tŷ Hen (yr adfail a welir i’r chwith o Gaffi Meinir heddiw) yn ddim byd mwy na hen bentwr o gerrig. Roedd incwm yn brin a’r Ymddiriedolwyr yn ceisio meddwl am syniadau i wneud elw ar y safle.

Dyma benderfynu adeiladu Caffi. Gwaith un o’r Ymddiriedolwyr, y saer maen Berwyn Evans o Lansannan oedd y strwythur cyntaf. Cymerodd Berwyn wythnos i ffwrdd o’r gwaith a gweithio o fore gwyn tan nos. Adeiladwyd yn defnyddio’r adnoddau prin oedd o gwmpas a rhoi to sinc arno.

House

Roedd lle rŵan i bobl ddod i wario a chael paned ar y safle. Dros y blynyddoedd datblygodd i fod yn gegin (fach) oedd yn paratoi prydau ar gyfer y dysgwyr. Bu sawl seren leol yn gweithio yn y Caffi dros y blynyddoedd; Elspeth Roberts oedd yn angor yng nghanol y cyfan. Mary o Lithfaen a Branwen Cennard, dau drysor arall.

Yn ôl hanesion Dr Carl Clowes, campwaith Elspeth, wedi iddi hi brynu sosban sglodion diwydiannol rhad, oedd y sglodion – roedd pawb yn pilio tatws fesul llwyth a daeth Elspeth yn enwog am y cynnyrch.

Ar gyfer ei ail-ddiwyg, roedd angen gosod to newydd (llechi). Roedd y ffordd yn hollol annigonol ar gyfer unrhyw lori bryd hynny. Felly dyma ofyn am ffafr gan RAF Y Fali, hedfanwyd yr ‘A-frames’ i mewn o dan hofrennydd oedd yn ymarferiad hyfforddi gwych ar eu cyfer!

Ers hyn, mae tri estyniad arall wedi cael eu hychwanegu rhwng 2008 – 2019; Ystafell Rhys, y tŷ gwydr ar y tu blaen ac estyniad i’r chwith o’r adeilad gwreiddiol. Mae Caffi Meinir bellach yn ofod braf, amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau lu. Bydd digon o baneidiau a sglodion ar gael pan fydd y Caffi’n ail-agor.

Houses