Newyddion

Pererindod yn ysbrydoli Edmund i ddysgu’r Gymraeg

Pererindod yn ysbrydoli Edmund i ddysgu’r Gymraeg

Mae Edmund Dixon yn byw Swydd Gaerhirfryn ac yn dysgu Cymraeg ers 2017. Dechreuodd ddysgu ar gwrs Blasu yn y Nant ac ers hynny mae wedi parhau gyda amryw o gyrsiau. Mae hefyd yn fardd cyhoeddedig ac yn ysgrifennu yn ei enw barddol Aziz Dixon, gyda nifer o gerddi wedi eu hysbrydoli gan y RS Thomas, tirwedd Cymru, enwau llefydd a’r iaith Gymraeg. Darllenwch casgliad byr o’i gerddi yma.

Dyma ei hanes yn ei eiriau ei hun.

“Ges i fy magu yn Llundain. Pan o’n i’n wyth mlynedd oed (ers talwm!), es i efo Tad i Gymru. Roedden ni’n dringo Cadair Idris bob haf. Yn 2015 dechreuais i ’sgwennu cerddi. Wedyn aethon ni ar daith pererin Gogledd Cymru, o Dreffynnon i Ynys Enlli, am bythefnos. Nes i astudio i fod yn archeolegydd yn y Brifysgol, ac dw i’n mwynhau darllen y tirwedd pan yn cerdded. Ron i isio deall enwau lleoedd ac hanes lleol. Gwelais i Nant am y tro cyntaf, ar y bererindod yma.

“Ar y daith, yn Aberdaron clywais am RS Thomas am y tro cyntaf. Dw i wedi dysgu barddoni efo Gillian Clarke yn Tŷ Newydd ger Cricieth; roedd hi’n dweud… rhaid i mi gael bardd fel carreg gyffwrdd, ac carreg gyffwrdd fi ydi RS Thomas. Mae’n ddiddorol sut mae o’n teimlo’n Gymraeg.

“Yn 2017 es i i’r Nant ar gwrs Blasu – roedd o’n fendigedig! Nes i syrthio mewn cariad. Wedyn rhwng 2018 – 2019 mi es ar gwrs wyneb i wyneb yn y Fflint am flwyddyn, bob dydd Mercher, ond roedd y daith hir o adref. Yn ystod y cyfnod clo, dechreuais i ar gwrs Mynediad ar-lein efo Mathew – un o diwtoriaid y Nant. Dw i’n ddiolchgar iawn, ac mae’n grŵp cryf a llawer wedi cario ymlaen i ddysgu. Wythnos yma mi dw i’n sefyll arholiad Mynediad.

“Yn fy amser sbâr dw i’n hoffi canu mewn côr ar-lein gan Jonathan Perry yn ne Cymru – dan ni’n canu ac yn ymarfer siarad yn y Gymraeg.  Pan oedd hi’n Nadolig wnaethon ni ddysgu plygain hyfryd. Dw i’n hoffi darllen llyfrau Cymraeg a dwyieithog. Faswn i’n hoffi symud i Gymru ryw ddiwrnod taswn i’n rhugl ac yn gallu…. Ond am y tro, dysgu gyda’r Nant. Mae’n wych bod posib dysgu yn rhithiol gyda’r Nant rŵan a dw i am ddal ati.”