Newyddion

Prif Weithredwr newydd i Nant Gwrtheyrn

Siwan Tomos

Prif Weithredwr newydd i Nant Gwrtheyrn

 

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Nant Gwrtheyrn yn falch o gyhoeddi bod Siwan Tomos, yn dilyn proses agored a chyfweliadau cystadleuol, wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr y Nant.

Siwan yw Rheolwr Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn ar hyn o bryd a bu’n gweithio yn y ganolfan ers dros ddwy flynedd. Er yn wreiddiol o Landudoch, Sir Benfro, mae Siwan a’i theulu wedi ymgartrefu ym Mhen Llŷn er chwe blynedd, ac mae’n aelod gweithgar a phrysur o’i chymuned.

Gyda Gradd a Gradd Feistr yn y Gymraeg, mae gan Siwan gymwysterau a chefndir cadarn ym maes cynllunio ieithyddol. Fe ddechreuodd ei gyrfa gyda’r Urdd cyn symud ymlaen i swydd reoli gyda chwmni IAITH Cyf, yn gweithio ar brosiectau cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru. Ers iddi ymuno â’r tîm yn y Nant, mae Siwan wedi arwain holl elfennau dysgu Cymraeg y ganolfan, gwaith â arweiniodd at ganlyniad rhagorol gan Estyn wedi arolwg yn Nant Gwrtheyrn yn 2024.

Mae Siwan hefyd wedi bod yn cydweithio gyda’r tîm yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar nifer o brosiectau blaengar ac allweddol ym maes y Gymraeg.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Bwrdd Nant Gwrtheyrn:

“Mae Siwan yn arweinydd naturiol ac angerddol ac mae ganddi weledigaeth gynhyrfus ar gyfer dyfodol y Nant. Roedd yn gyfrifol y llynedd am sicrhau’r canlyniadau gorau posib mewn arolwg Estyn yn y maes Cymraeg i Oedolion. Yn awr mi fydd yn cymryd cyfrifoldeb am holl adnoddau’r safle arbennig yma ac am arwain y tîm sy’n estyn croeso i ddysgwyr ac ymwelwyr o bob math. Mae Nant Gwrtheyrn yn symud ymlaen i gyfnod newydd.”

Mae’r Adran Addysg wedi mynd o nerth i nerth dan arweiniad cadarn Siwan gyda chynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau yn y Nant. Fe fydd Siwan yn dechrau yn ei swydd ar y 7fed o Ebrill. Yn Brif Weithredwr, bydd yn gyfrifol am holl elfennau’r ganolfan ac am gynrychioli Nant Gwrtheyrn ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’n edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda’r staff ymroddedig a thalentog a Bwrdd Nant Gwrtheyrn:

"Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael arwain y tîm yr wyf wedi cydweithio gyda nhw dros y ddwy flynedd diwethaf.  Mae'r Nant yn le arbennig iawn sy'n gwneud gwaith arloesol a phwysig sy'n rhoi profiadau arbennig  i siaradwyr newydd a'n cwsmeriaid i gyd. Rwy'n edrych ymlaen i ddatblygu'r gwaith yn lleol ac yn genedlaethol ac i feithrin perthnasau hen a newydd. Rwy'n barod am yr her ac yn ddiolchgar am y cyfle."