Newyddion

Prosiect arloesol cyntaf o’i fath i ymchwilio i eifr gogledd Cymru

Prosiect arloesol cyntaf o’i fath i ymchwilio i eifr gogledd Cymru

Mae prosiect ymchwil cyffrous ar fin dechrau ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, yn edrych ar y geifr gwyllt sy’n crwydro’r ardal ers canrifoedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt wedi cael ei gomisiynu gan Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn i ymgymryd â’r gwaith.

Diolch i nawdd caredig Cronfa Datblygu Gynaliadwy AHNE Llŷn (AONB) a chefnogaeth gan y prosiect Ecoamgueddfa Llŷn Iveragh, mae’r gwaith yn barod i ddechrau. Y nod yw casglu data a gwybodaeth am y geifr gan edrych ar y sefyllfa o ran cynaliadwyedd a’u heffaith ar fioamrywiaeth yr ardal.

Bydd y prosiect yn edrych ar gyr o eifr sy’n byw ac yn pori yn ardal fynyddig yr Eifl rhwng pentrefi Trefor a Phistyll. Mae’r geifr yn olygfa gyffredin erbyn hyn i bobl sy’n ymweld â Nant Gwrtheyrn, yn cerdded llwybr yr arfordir neu fynyddoedd yr Eifl.

Dywedodd Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn: “Mae’r geifr wedi troedio’r tiroedd yma ers canrifoedd. Dros y cyfnod clo daeth yn fwyfwy amlwg bod y rhifau wedi cynyddu yn sylweddol gyda’r geifr yn cael ei gweld ym mhentrefi Trefor a Llithfaen yn amlach. Dyma rydym wedi ei weld yma yn y Nant hefyd. Yn y gaeaf roeddem ni’n arfer eu gweld yn y Nant wrth iddynt deithio i lawr i chwilio am fwyd a chysgod, ond erbyn hyn maent yma’n ddyddiol.

“Rydym yn bryderus am eu heffaith ar fioamrywiaeth, y rhywogaethau prin sy’n tyfu yn yr ardal ac am iechyd a lles y geifr ei hunain. Gan nad oes erioed darn o waith ymchwil wedi cael ei wneud ar y geifr, rydym yn dibynnu ar ragdybiaethau, mae angen ymchwil fel hyn i weld y darlun cyfan ac i gael data dibynadwy. Mae hi’n amserol i’r gwaith yma gael ei wneud ac rydym yn ddiolchgar i AHNE am ei cyfraniad ariannol ac yn edrych ymlaen i weld y gwaith yn dechrau. Mae hefyd yn grêt gweld bod cyfleoedd i’r gymuned leol fod yn rhan o’r gwaith.”

Bydd nifer o dechnegau yn cael eu defnyddio i fonitro’r anifeiliaid. Yn cynnwys gosod camerâu cudd ar y llwybrau, defnyddio technoleg delweddau thermal a chamerâu drôn yn ogystal ag arolygu traddodiadol yn defnyddio pobl. Y gobaith yw y bydd coleri arbennig hefyd yn cael eu gosod ar rai o’r geifr er mwyn gallu monitro eu symudiadau . Bydd y gwaith yma’n cael ei wneud fel rhan o brosiectau ehangach gan Brifysgol Bangor ac Aberystwyth. Bydd y prosiect hefyd yn edrych ar DNA a geneteg y geifr er mwyn dysgu mwy am eu tras a’i hanes unigryw.

Dywedodd Lee Oliver o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt: “Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle yma i astudio’r geifr, maen nhw’n boblogaeth unigryw ac yn gymharol fach, ond yn boblogaeth sy’n tyfu. Mi fydd hi’n hynod o ddiddorol astudio’r grŵp a bydd yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio technegau arloesol yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned leol.”

Ychwanegodd Elin Wyn Hughes, Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn: “Mae’r Gronfa Ddatblygu Gynaliadwy yn gronfa sydd gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cefnogaeth i brosiectau mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n annog cynaladwyedd ac yn gwarchod tirwedd a’i nodweddion arbennig. Mae’r prosiect yma yn benodol yn gyffrous ac yn werthfawr yn nhermau casglu gwybodaeth am rywogaeth ddiddorol ac yn edrych ar gyflwr cynefinoedd pwysig yn yr ardal.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect dilynwch wefannau a chyfryngau cymdeithasol Nant Gwrtheyrn ac AHNE Llŷn.