Newyddion

Rydym yn recriwtio!

Rydym yn recriwtio!

Mae Caffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn, Llithfaen yn chwilio am bobl i ymuno gyda’r tîm.


Staff llawn amser

Rydym yn recriwtio am gogydd llawn amser i weithio gyda’n prif gogydd. Mae profiad blaenorol yn hanfodol, ond yn bwysicach na dim rydym eisiau person sydd yn angerddol am goginio bwyd cartref ac yn awyddus i ddatblygu a gwell ei sgiliau. Os ydych chi’n berson hyblyg, dibynadwy ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm o dan bwysau mewn cegin gyfeillgar a phrysur, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau a bydd hyn yn cael ei darfod gyda chi yn y cyfweliad.

Gweld copi o’r swydd ddisgrifiad.

Rydym hefyd yn chwilio am staff blaen tŷ llawn amser i weithio yn y Caffi ac mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl gydag agwedd frwdfrydig, hyblyg, sy’n gweithio’n galed, gyda phrofiad o fod yn rhan o dîm ac sy’n awyddus i ddysgu.

Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno gyda’r tîm, anfonwch eich CV at post@nantgwrtheyrn.org neu ffoniwch am sgwrs anffurfiol 01758 750900.

 

Staff Tymhorol

Rydym eisiau staff tymhorol i weithio yn ein cegin / caffi prysur yn ystod y gwyliau ysgol ac yn achlysurol ar benwythnosau. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Mae oriau hyblyg ar gael, yn cynnwys penwythnosau. Os oes gennych chi ddiddordeb e-bostiwch post@nantgwrtheyrn.org neu ffonio 01758 750900.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr.

Dyddiad cau: Dydd Llun, 19 Ebrill.