Newyddion

Y Prosiect Torri Coed

Prosiect Torri Coed Nant Gwrtheyrn

Fis Hydref llynedd dechreuwyd y gwaith o dorri’r coed pin yn y Nant.  Mae hwn yn waith sydd yn cael ei gaffael o dan y Cynllun Coetiroedd Cymunedol a chyda nawdd o Gronfa Coetir Cymunedol y Loteri yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.  Bydd y cynllun yn sicrhau dyfodol hirdymor y coetir gan fod y coed oedd yno wedi cyrraedd diwedd eu hoes.

Erbyn hyn mae’r coed i gyd wedi’u torri a’r gwaith o ail-blannu wedi cychwyn gyda 5000 o goed wedi’u plannu ym mis Ebrill eleni yn barod.  Bydd y gwaith yn parhau yn ystod diwedd 2024 – chwarter cyntaf 2025.  Mae yna amrywiaeth o goed yn cael eu plannu, gan gynnwys; Helygen Lwyd, Collen, Draenen  Ddu, Draenen Wen, Criafolen a mwy.

Bydd camau cyffroes nesaf y cynllun yn cynnwys; gosod ffensys, creu llwybrau, gosod meinciau a chreu ardal chwarae coetir all hefyd gael ei defnyddio fel dosbarth awyr agored.

Dywedodd Mair Saunders, Prif Weithredwr y Nant:

“Mae gennym gyfle i ailsefydlu coetir brodorol i gefnogi bioamrywiaeth leol. Fel Canolfan Dreftadaeth sefydledig, mae cyfle i ddenu pobl i goedwig fyddai wedi’i hadfywio a’u haddysgu am natur leol.”

Rydym yn edrych ymlaen i weld y gwaith yn datblygu.