Newyddion

Tachwedd 15
Noson arbennig o ganu a hel atgofion yng nghwmni Dafydd Iwan a Huw Jones gydag Aled Hughes yn llywio’r cyfan
Bydd y drysau’n agor am 6:30yh a’r noson yn cychwyn am 7:00yh
Bachwch eich tocynnau yn gynnar cyn iddyn nhw ddiflannu.
Tocyn i’r gig yn unig: £20
Aros noson a thocyn i’r gig i un person: £110
Aros noson a thocyn i’r gig i ddau berson: £160
Bydd Caffi Meinir ar agor os hoffech chi damaid i fwyta cyn y gig, bydd angen archebu bwrdd o flaen llaw.
I archebu tocynnau cysylltwch:
01758 750334