Rydym yn chwilio am lanhawr i ddarparu gwasanaethau glanhau safonol yn Nant Gwrtheyrn.
Cyflog: Graddfa Cyflog - i'w gadarnhau
Hyd Cytundeb: Swydd barhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: Oriau Hyblyg - cysylltwch am fwy o wybodaeth
Prif Gyfrifoldebau:
- Dyletswyddau glanhau safonol yn y Neuadd, Caffi, Plas, Sgubor, Capel a'r swyddfeydd.
- Sicrhau bod y safle yn edrych ar ei orau pob amser.
- Glanhau toiledau'r safle yn gyson yn ystod y dydd.
- Cyfrifol am lanhau yn dilyn digwyddiadau.
- Weithiau bydd gofyn i chi helpu'r adran llety gyda newid y gwlâu.
- Sicrhau fod offer glanhau yn cael ei gadw yn yr ardaloedd priodol.
- Adrodd i'r Arweinydd Gofal a Glendid os oes angen archebu ac ailgyflenwi stoc cynnyrch glanhau.
- Hyblygrwydd gydag oriau yn ddibynnol ar ddigwyddiadau, hyn yn cael ei drefnu a chyfathrebu gan yr Arweinydd Gofal a Glendid.
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am y swydd anfonwch eich CV at post@nantgwrtheyrn.org