Newyddion

Caffi Meinir yn ail-agor i gynnig tecawê

Caffi Meinir yn ail-agor i gynnig tecawê

Bydd Caffi Meinir ar agor penwythnos 23 a 24 Ebrill ac yn gwerthu prydau tecawê.

Prydau blasus, cartref yn cael eu partio yn ffres gan ein cogydd talentog!

Gweld y fwydlen tecawê
Bydd hefyd yn bosib i chi gael diod poeth, brechdan, cacen a chawl o’r Caffi wrth fynd am dro rhwng 12 – 4pm dydd Sadwrn 17 Ebrill a dydd Sul 18 Ebrill.

Proses archebu ar gyfer 23 a 24 Ebrill

  1. Bydd angen archebu erbyn 12pm y dydd Mercher 21 Ebrill cyn y dyddiad rydych chi eisiau’r tecawê
  2. Anfonwch eich archeb at: arlwyo@nantgwrtheyrn.org gan nodi pa ddyddiad ac amser rydych chi eisiau dod i gasglu’r bwyd ac anfon rhif ffôn cyswllt.
  3. Gallwch hefyd archebu dros y ffôn rhwng 10am – 12pm ar y dydd Mercher cynt.

 

Amseroedd posib

12.00   12.15   12.30   12.45   1.00   1.15   1.30   1.45   2.00   2.15   2.30   2.45   3.00

4.00    4.15   4.30   4.45 5.00   5.15   5.30   5.45   6.00   6.15   6.30   6.45   7.00

Os nad yw’r union amser ar gael byddwn yn cysylltu i gynnig amser arall

  1. Unwaith fyddwch chi wedi derbyn cadarnhad, byddwn yn eich ffonio i gymryd taliad
  2. Rhowch wybod yn yr e-bost os oes gennych unrhyw anghenion dietegol
  3. Casglwch yr archeb o gownter Caffi Meinir.

Y gobaith yw ail-agor tu allan o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen (yn ddibynnol ar gyhoeddiad Llywodraeth Cymru).

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi eto yn Caffi Meinir!