Yr Ymddiriedolaeth
Yr Ymddiriedolaeth
Mae Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn elusen sydd wedi ei chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Ei rhif yw 1078543.
Pwrpas cofrestredig yr elusen yw: “Meithrin addysg yng Nghymru a hyrwyddo addysgu’r cyhoedd ac astudiaeth mewn perthynas â iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, y swyddogaethau hyn i’w cyflawni’n bennaf mewn canolfan neu ganolfannau priodol (preswyl neu ddibreswyl) i’w sefydlu a’i gynnal gan yr Elusen yng Nghymru.
Mae’r Elusen wedi ei hymgorffori fel Cwmni Cyfyngedig trwy Warant. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd â diddordeb mewn hyrwyddo Gwrthrychau’r Cwmni, ar ôl talu’r tanysgrifiad aelodaeth, sydd ar hyn o bryd yn £1.
Mae Ymddiriedolwyr yr Elusen yn gweithredu fel Cyfarwyddwyr y Cwmni. Cânt eu hethol neu eu hail-ethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cwmni. Rhaid ar unrhyw adeg bod yna leiafrif o 5 Cyfarwyddwr ac uchafswm o 11, a rhaid i bob un ohonynt fod yn aelodau. Gwahoddir y Cynghorydd Sir lleol i fynychu’r cyfarfod.
Fel rheol, cynhelir CCB y Cwmni ym mis Gorffennaf bob blwyddyn yn Nant Gwrtheyrn, ac mae aelodau’n derbyn tair wythnos o rybudd o’r dyddiad a’r agenda.
Gweithredu’r amcanion
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni ei hamcanion trwy ddarparu cyrsiau preswyl ac ar-lein o ansawdd uchel ar gyfer dysgu Cymraeg. Cynigir y cyrsiau hyn ar nifer o wahanol lefelau yn amrywio o “Blasu” i “Uwch”, gyda rhai cyrsiau wedi’u targedu at sectorau cyflogaeth penodol. Cefnogir y gwaith hwn gan siop yr Ymddiriedolaeth ar y safle, sy’n arbenigo mewn deunyddiau addysgol a deunyddiau eraill sydd o ddiddordeb arbennig i’r rhai sy’n dysgu am Gymru, ei hiaith a’i diwylliant. Mae’r amgylchedd dysgu yn cael ei gryfhau ymhellach gan allu’r holl staff i ryngweithio yn Gymraeg. Mae’r Ganolfan Dreftadaeth, Bwthyn y Chwarelwr a’r Hen Feddygfa ar y safle oll yn darparu arddangosfeydd gweledol a fideo lle gall ymwelwyr ddysgu am y dyffryn, y pentref a’u hanes, ac am yr iaith Gymraeg. Gellir ymweld â’r rhain yn rhad ac am ddim, er bod tâl o £2 yn cael ei ofyn am barcio.
Mae gallu’r Ymddiriedolaeth i ddarparu ei chyrsiau am brisiau rhesymol, ac i gynnal a chadw’r cyfleusterau yn ogystal â’r ffordd fynediad, yn cael ei gefnogi gan ystod o weithgareddau masnachol, gan gynnwys caffi a bwyty sy’n agored i bawb, a thrwy rentu ei chyfleusterau a’i llety ar gyfer cynadleddau, priodasau a digwyddiadau eraill. Mae 100% o’r elw y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei gynhyrchu o’r gweithgareddau hyn yn mynd i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth. Mae’r Ymddiriedolwyr i gyd yn darparu eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Cefnogi’r Elusen
Mae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn cefnogaeth bellach i’w gwaith gan wirfoddolwyr, lleol yn bennaf, sy’n helpu i gyfoethogi profiad dysgwyr ac ymwelwyr eraill trwy ddarparu cyfleoedd i sgwrsio yn Gymraeg neu weithredu fel tywyswyr ar gyfer ymweliadau grŵp.
Ers dechrau’r Ymddiriedolaeth, bu cyfraniadau ariannol gan gefnogwyr yn elfen hanfodol o’i llwyddiant. Mae’r rhain yn amrywio o’r ymdrechion codi arian trawiadol gan gymunedau ledled Cymru a’i gwnaeth yn bosibl i brynu’r pentref gan Gorfforaeth ARC yn y cychwyn un (gweler Hanes), i gymynroddion llai cyhoeddus trwy ewyllysiau ac anrhegion oes.
Mae’n werth nodi un rhodd arbennig o’r fath:
Yn 2008 rhoddodd Miss Heulwen Richards o Fae Trearddur yn Ynys Môn i’r Ymddiriedolaeth dir ac eiddo ar yr ynys yn werth dros £750,000. Roedd yr anrheg hon yn hanfodol i benderfyniad yr Ymddiriedolaeth i fuddsoddi mwy na £5m yn ystod y chwe blynedd ganlynol ar drawsnewid y ffordd fynediad, y cyfleusterau a’r llety.
Mae rhoddion o bob math a maint yn parhau i gael eu derbyn yn ddiolchgar a gwneir defnydd da o’r cynllun “Cymorth Rhodd” lle mae cyfraniadau gan drethdalwyr yn cael eu cynyddu gan Gyllid a Thollau EM.
Mae llawer o gefnogwyr yn dewis ymuno â Chyfeillion y Nant sydd â’r fantais ychwanegol o gynnig gostyngiadau ar ffioedd cwrs.
Dr. Carl Clowes
Gyda thristwch mawr fe gyhoeddwyd bod sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, y Doctor Carl Clowes, wedi marw yn yr oriau man fore Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 2021, yn dilyn salwch byr. Roedd yn 77 mlwydd oed.
Gweledigaeth Carl Clowes oedd adfer bywyd y pentref trwy greu yma ganolfan iaith genedlaethol; ef oedd Cadeirydd cyntaf yr Ymddiriedolaeth ac roedd yn dal yn aelod gweithgar o’r Bwrdd, fel y bu ar hyd y blynyddoedd.
Mae’r ymddiriedolwyr a’r staff yma’n ymwybodol iawn o’n colled ac yn cydymdeimlo’n ddwfn gyda Dorothi a’r teulu yn eu profedigaeth.
Dyma deyrnged Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Huw Jones.
Darllenwch Newyddion diweddaraf yr Ymddiriedolaeth.
Cyfarfod Blynyddol 2022